Official Prayers

Here are four prayers for 'The God who Speaks' Scripture initiative.

icon-home » About the Bible » Official Prayers

Please use these wherever you feel you can. They are provided for both individual and group use:

Living God,
you walk alongside us
and speak to us throughout the Scriptures.
Your Son, Jesus Christ, listens to our hopes and fears
and shows us how to live for one another.
Send us the Holy Spirit to open our hearts and minds
so that we may be your witnesses throughout the world.

Amen

V. Your word is our path and your truth is our light.
R. This day and every day.

Our Lady of the Annunciation
Pray for us

St Mark
Pray for us

St Jerome
Pray for us


Longer Prayer to the God Who Speaks

Creator and Source of all, you spoke to Moses calling your people into life.

He asked for your name and you revealed your mystery.

“I am who I am, who I will be, where I will be”. Your divine life, beyond our inadequate images, beyond our fragile attempts to know and control. And gradually, through your prophets, you opened our minds and hearts to the immensity of the mystery of your creative mercy.

Word made Flesh, you came among us to open up a way and a life true to your mystery and true to our desire; a Word that both speaks in our hearts and through the vastness of your cosmos.

Holy Spirit, from the first Pentecost you enabled us to hear the Word in our own reality and respond to it among companions from every race and tongue. Provoke us now to return to that divine word in Creation, that Word en-fleshed in Jesus, that Word spoken and recorded in the Holy Scriptures.

Touch our minds and hearts today as we read alone, as we proclaim in the liturgy, as we study together and, inspired anew, help us to become that Word for all who seek the way, the truth, and the life.

Amen.

David McLoughlin


Pilgrim Prayer for the Year

Pilgrim God,
you walk alongside us
and speak to us throughout the Scriptures:
in the message of the prophets,
the songs of David
and the vision of Paul.
Your Son, Jesus Christ, listens to our hopes and fears
and shows us how to live:
in our love of neighbour
our desire for justice,
and in our dying and rising each day.
Send us the Holy Spirit to open our hearts and minds
so that we may be your witnesses throughout the world:
in our protection of the vulnerable,
our words and actions
and in our communion with the earth.

Amen

V. Your word is our path and your truth is our light.
R. This day and every day.

Our Lady of the Annunciation
Pray for us

St Mark
Pray for us

St Jerome
Pray for us


Risen Lord,
Your disciples walking on the road to Emmaus began to sense your presence as you explained the Scriptures to them.
As we study the Scriptures today may our hearts burn too,
kindled by the Spirit, with the love of God, and the delight of your teaching, 
that we may see with your eyes, heal with your hands, walk in your ways and love with your heart.

Amen

Fr John Deehan



Defnyddiwch y rhain pryd bynnag yr ydych yn teimlo y gallwch. Maen nhw wedi cael eu darparu ar gyfer defnydd unigol neu mewn grŵp:

Dduw byw,
rwyt yn cerdded gyda ni
ac yn siarad gyda ni trwy’r Ysgrythurau.
Mae dy Fab, Iesu Grist, yn gwrando ar ein gobeithion a’n hofnau
ac yn dangos i ni sut i fyw, gyda ac i’n gilydd.
Anfon yr Ysbryd Glân atom i agor ein calonnau a’n meddyliau
er mwyn i ni fod yn dystion i ti trwy’r byd.

Amen

Gwersigl. Dy air yw ein llwybr a’th wirionedd yw ein goleuni.
Ateb. Y dydd hwn a phob dydd arall.

Mair y Cyhydedd
Gweddïa drosom

Sant Marc
Gweddïa drosom

Sant Jerôm
Gweddïa drosom


Gweddi Hirach i’r Duw sy’n Siarad

Greawdwr a Ffynhonnell pob peth, siaradaist ti â Moses wrth alw dy bobl i mewn i fywyd.
Gofynnodd am dy enw datgelaist tithau dy ddirgelwch.
“Yr wyf yr hyn ydwyf, yr hwn a fyddaf, ymhle y byddaf”.
Dy fywyd dwyfol, y tu hwnt i’n delweddau annigonol, y tu hwnt i’n hymdrechion bregus i wybod a rheoli.
Ac yn raddol, trwy dy broffwydi,
agoraist ein meddyliau a’n calonnau i fawredd dirgelwch dy drugaredd creadigol.
Y Gair a wnaethpwyd yn Gnawd, deuaist ti i’n plith i agor
ffordd a bywyd sy’n ffyddlon i’th ddirgelwch ac yn ffyddlon i’n dyhead;
Gair sy’n siarad yn ein calonnau a thrwy eangder dy fydysawd.
Ysbryd Sanctaidd, o’r Sulgwyn cyntaf rwyt ti wedi ein galluogi ni i glywed
y Gair yn ein gwirionedd ni ein hunain ac ymateb iddo ymysg cyfeillion o bob hil ac iaith.
Dyro i ni yn awr ddychwelyd at y gair dwyfol yn y Greadigaeth, y Gair a ymgnawdolodd yn Iesu,
y Gair hwnnw sy’n siarad ac yn cael ei gofnodi yn yr Ysgrythurau Sanctaidd.
Cyffwrdd â’n meddyliau a’n calonnau heddiw wrth i ni ddarllen ar ein pen ein hunain,
wrth i ni gyhoeddi’r litwrgi, wrth i ni astudio gyda’n gilydd ac, wedi’n hysbrydoli o’r newydd,
cynorthwya ni i ddod y Gair hwnnw sy’n chwilio am y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.

Amen

David McLoughlin


Gweddi Pererin am y Flwyddyn

Dduw Bererin,
rwyt yn cerdded gyda ni
ac yn siarad gyda ni trwy’r Ysgrythurau:
Yn neges y proffwydi,
caneuon Dafydd
a gweledigaeth Paul.
Mae dy Fab, Iesu Grist, yn gwrando ar ein gobeithion a’n hofnau
ac yn dangos i ni sut i fyw:
yn ein cariad at ein cymdogion,
yn ein hawydd am gyfiawnder,
ac yn ein marw a’n codi pob dydd.
Anfon yr Ysbryd Glân atom i agor ein calonnau a’n meddyliau
er mwyn i ni fod yn dystion i ti trwy’r byd:
yn ein gwarchodaeth o’r bregus,
yn ein geiriau a’n gweithredoedd
ac yn ein cymundod â’r ddaear.

Amen

Gwersigl. Dy air yw ein llwybr a’th wirionedd yw ein goleuni.
Ateb. Y dydd hwn a phob dydd.

Mair y Cyhydedd
Gweddïa drosom


Sant Marc
Gweddïa drosom


Sant Jerôm
Gweddïa drosom


Arglwydd Atgyfodedig,
Dechreuodd dy ddisgyblion sylweddoli dy bresenoldeb wrth i ti egluro’r Ysgrythurau wrth gerdded
gyda hwy ar y ffordd i Emaus.
Wrth i ninnau astudio’r Ysgrythurau heddiw,
boed i’n calonnau ni hefyd fod ar dân,
wedi’u cynnau gan yr Ysbryd,
gyda chariad Duw, ac yn hyfrydwch dy ddysgeidiaeth,
fel y gallwn ni weld gyda’th lygaid di, iachau gyda’th dwylo di,
cerdded yn dy ffyrdd di a charu gyda’th galon di

Amen

Y Tad John Deehan